Ein Cymdeithasau Myfyrwyr
Rydym wedi ysgrifennu at Gymdeithasau Cymreig yn y Grŵp Russell i ofyn am eu cefnogaeth am rhwydwaith Darogan. Yma allwch ddod o hyd i rai o'n cefnogwyr. Os ydych chi eisiau dod yn un, cysylltwch â ni!

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1886, sy’n ei gwneud y gymdeithas hynaf ym Mhrifysgol Rhydychen, ar wahân i gymdeithas yr Undeb.
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
Cymdeithas gymreig nodedig Prifysgol Rhydychen oedd un o'n cefnogwyr cyntaf. Dywedodd Caplan Osian Prys Elis: "Hoffwn gyfleu cefnogaeth ffurfiol y gymdeithas i'r Darogan. Mae mecanwaith a rhwydwaith i wrthdroi'r draen ymennydd yn allweddol wrth greu Cymru feiddgar, fodern a chadarn.”

Mae'r gymdeithas yn disgrifio'i hun fel cymuned i bob myfyriwr Warwick sy'n Gymry, neu sydd eisiau bod!
CYMDEITHAS CYMRAEG PRIFYSGOL WARWICK
Mae Cymdeithas Gymreig Prifysgol Warwick yn gefnogwyr lleisiol o'n gwaith, gyda Llywydd y grŵp, Brychan Williams, yn dweud bod ein menter yn syniad "gwych".

CYMDEITHAS CYMRAEG PRIFYSGOL Bryste
Un o'n cefnogwyr diweddaraf. Dywedodd Llywydd y grŵp, Jona Owen: "Credwn fod Rhwydwaith Darogan yn ffordd effeithiol o ddenu myfyrwyr o brifysgolion grŵp Russell yn ôl i Gymru."